Thursday 14th September

Leading Welsh communications firm Orchard Media and Events Group has bolstered its support for women in sports through securing a new deal with the Welsh Premier Women’s League (WPWL).

The company, which has a history of working to promote women in sports, has secured headline sponsorship of the WPWL for the second year running.

Women’s football is becoming increasingly popular in Wales and around the world. Growing attendance figures and broadcasting deals have raised awareness at the top end of the sport, as well as participation amongst grassroots teams. The Football Association of Wales (FAW) Women’s strategy has a target of 20,000 affiliated players by 2022, and 600 new Female coaches by 2024 at all levels of the game throughout Wales.

WPWL League Secretary Lucy Kelly said: “I am very pleased Orchard have become headline sponsors for our national league in Wales once again. Women’s football has never been so popular. Orchard’s increasing portfolio of success with major events over the last number of years means that we are uniquely positioned to keep bolstering support for the sport together.”

Orchard will now be the WPWL headline sponsor for the 2017/2018 season. The sponsorship was the biggest commercial deal in the history of the competition when Orchard first secured the partnership last year.

Orchard’s team work across a wide range of disciplines including: public relations, media planning and buying, TV and radio production, music promotion, VR and AR, event management, exhibitions, audio visual hire and design.

Orchard already works closely with the Football Association of Wales, managing match days for the World Cup qualifiers and producing the recent FAW Awards ceremony.

Orchard’s film department recently produced the BBC Wales programme Wales Women: Inside the Scrum following the Welsh Women’s rugby team in the build up to this year’s Six Nations. This month, S4C will air Orchard’s TV series which follows Wales and Lions legend Mike Phillips as he coaches the Senghenydd Sirens.

Orchard’s PR Director Tim Powell said: “As proud supporters of Welsh sport, and a major player in media and events in Wales, we are only too happy to support the development of the women’s game in Wales. We enjoy a great relationship with the FAW, and want to play our part in their success.”

The Welsh Premier Women’s League was formed in 2009 and now has 10 participating teams.

thinkorchard.com

welshpremierwomensleague.co.uk

Mae un o gwmnïau cyfathrebu blaenllaw Cymru, Orchard Media and Events Group, wedi dangos ei chefnogaeth i fenywod mewn chwaraeon trwy sicrhau cytundeb newydd gyda Uwch Gynghrair Merched Cymru.

Mae’r cwmni, sydd â hanes o hyrwyddo menywod mewn chwaraeon, wedi sicrhau lle fel un o brif noddwr UGMC am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae pêl-droed merched yn dod yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru a ledled y byd. Mae ffigurau presenoldeb yn y gemau a mwy o ddarlledu wedi codi ymwybyddiaeth ar lefel uchaf y gamp, yn ogystal â chyfranogiad ymhlith timau lleol ac ysgolion. Mae gan Strategaeth Menywod Cymdeithas Pêl-droed Cymru (UBDC) darged o 20,000 o chwaraewyr cysylltiedig erbyn 2022, a 600 o hyfforddwyr Benyw newydd erbyn 2024 ar bob lefel o’r gêm dros Gymru gyfan.

Dywedodd Ysgrifennydd Cynghrair UGMC, Lucy Kelly: “Rwy’n falch iawn bod Orchard wedi dod yn brif noddwr ar gyfer ein cynghrair genedlaethol yng Nghymru unwaith eto. Nid yw pêl-droed menywod erioed wedi bod mor boblogaidd. Mae portffolio cynyddol Orchard o lwyddiant gyda digwyddiadau mawr dros y nifer o flynyddoedd diwethaf yn golygu ein bod mewn sefyllfa unigryw i gadw’r gefnogaeth i’r gamp fynd o nerth i nerth gyda’n gilydd. “

Orchard nawr bydd prif noddwr UGMC ar gyfer tymor 2017/2018. Y nawdd oedd y ddêl fasnachol fwyaf yn hanes y gystadleuaeth pan sicrhaodd Orchard y bartneriaeth y llynedd.

Mae tîm Orchard yn gweithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys: cysylltiadau cyhoeddus, cynllunio cyfryngau a phryniant, cynhyrchu teledu a radio, hyrwyddo cerddoriaeth, VR ac AR, rheoli digwyddiadau, arddangosfeydd, llogi clywedol a dylunio.

Mae Orchard eisoes yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, yn rheoli diwrnodau gemau rhyngwladol ar gyfer rowndiau cymhwysoCwpan y Byd ac wedi cynhyrchu seremoni wobrwyo CBDC yn ddiweddar.

Yn ddiweddar, cynhyrchodd adran ffilm Orchard raglen BBC Wales Wales Women: Inside the Scrum yn dilyn tîm rygbi Menywod Cymru yn eu paratoadau ar gyfer y Chwe Gwlad eleni. Y mis hwn, bydd S4C yn darlledu cyfres deledu gan Orchard sy’n dilyn un o arwyr Cymru a’r Llewod, Mike Phillips wrth iddo hyfforddi Sirens Senghenydd.

Meddai Tim Powell, Cyfarwyddwr Cyhoeddus Orchard: “Fel cefnogwyr balch chwaraeon Cymru, ac yn gwmni mawr o fewn cyfryngau a digwyddiadau yng Nghymru, rydym yn eithriadol o falch i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gêm y merched yng Nghymru. Rydym yn mwynhau perthynas wych gyda CBDC, ac rydym am chwarae ein rhan yn eu llwyddiant. ”

Ffurfiwyd Cynghrair Cystadleuaeth Menywod Cymru yn 2009 ac erbyn hyn mae 10 o dimau yn cymryd rhan.

thinkorchard.com

welshpremierwomensleague.co.uk